Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (175)v4 |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon (45 munud)
|
3 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
|
4 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid: Cynnydd ar Wella Caffael Cyhoeddus - gohiriwyd
|
5 Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Adolygiad Annibynnol o Gydnerthedd Ffermio (30 munud)
|
6 Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Bolisi Trafnidiaeth (30 munud)
|
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 i newid y drefn y caiff gwelliannau Cyfnod 3 i’r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) eu trafod (5 munud) NDM5414 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn canlynol:
a)adrannau 2-76 b)atodlen 1 c)adrannau 77 -133 d)atodlen 2 e)adrannau 134-169 f)atodlen 3 g)adrannau 170 – 183 h)adran 1 i)Teitl Hir
|
8 Adroddiad y Comisiwn Williams ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus (60 munud) NDM5412 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi Adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus
Gallwch weld yr Adroddiad drwy ddilyn y ddolen isod: http://wales.gov.uk/topics/improvingservices/public-service-governance-and-delivery/report/?lang=cy
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu ar ddechrau’r cynnig ac ail-rifo yn unol â hynny: 1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi amserlen ar gyfer ymateb i’r argymhellion yn Adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus, a
2. Os bwriedir gweithredu’r argymhellion yn Adroddiad y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiffinio’r canlynol: a) swyddogaeth a strwythur unrhyw ardaloedd awdurdodau lleol newydd; b) system dryloyw ar gyfer monitro a gwerthuso’r ddarpariaeth o wasanaethau yn yr ardaloedd hynny; c) y nifer o etholwyr a ragwelir ar gyfer pob cynghorydd yn yr ardaloedd hynny.
Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn croesawu’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn adroddiad y Comisiwn am yr angen i leihau cymhlethdod mewn gwasanaethau cyhoeddus ac yn cadarnhau y dylai unrhyw newidiadau o ran darparu gwasanaeth cyhoeddus wella canlyniadau ar gyfer ein dinasyddion.
Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi argymhelliad yr adroddiad i gychwyn y broses o integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn gresynu na roddwyd ystyriaeth lawn i uno'r gwasanaethau hyn.
Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu, os cytunir ar ostyngiad yn nifer yr awdurdodau lleol, yna y dylai gostyngiad ddigwydd hefyd yng nghyfanswm nifer y cynghorwyr.
Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi nad oedd diwygio’r drefn bleidleisio ar gyfer etholiadau cynghorau yn rhan o gylch gorchwyl Comisiwn Williams ond yn credu mai gweithredu Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy fyddai'r dull mwyaf priodol o ethol nifer llai o gynghorwyr.
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu nad oedd diwygio’r drefn bleidleisio yn rhan o gylch gorchwyl Comisiwn Williams ac yn credu y dylai unrhyw ad-drefnu ar lywodraeth leol gynyddu atebolrwydd drwy gyflwyno Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau cynghorau, fel yr argymhellwyd gan Gomisiwn Sunderland, ac fel sy’n digwydd ar hyn o bryd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. |
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 29 Ionawr 2014